Defnyddiwch Firefox fel eich porwr menter
Mae Firefox yn darparu pori diogel, gwydn sy'n canolbwyntio ar breifatrwydd ar raddfa fawr. Gyda pholisïau menter yn Firefox neu Firefox Extended Support Release (ESR), mae sefydliadau'n cael hyblygrwydd, rheolaeth a thryloywder mewn porwr cod agored y mae modd ymddiried ynddo.
Diogeledd safon menter, wedi'i bweru gan Firefox
Mae Firefox yn cyfuno tryloywder cod agored gyda nodweddion diogelwch uwch a diweddariadau aml i helpu i ddiogelu data eich sefydliad.
Darparu pryd a sut bynnag sy'n addas i chi
Gyda phecynnau gosod ac ystod eang o bolisïau a nodweddion grŵp, mae'r defnydd yn gynt ac yn fwy hyblyg nag erioed - ac yn hawdd ar gyfer amgylcheddau Windows, Linux a macOS.
Cylchoedd rhyddhau sy'n gweddu i'ch sefydliad
Dewiswch Firefox ar gyfer y nodweddion diweddaraf a datganiadau sefydlog bob pedair wythnos, neu Firefox ESR ar gyfer sefydlogrwydd hirdymor, diweddariadau diogelwch rheolaidd, a datganiadau mawr blynyddol.
Pecynnau Enterprise
Windows 64-did
macOS
Windows 32-did
Llwythwch Firefox neu Firefox ESR i lawr ar gyfer iaith neu lwyfan arall.